Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru yn dod â chyflogwyr, darparwyr sgiliau a rhanddeiliaid ynghyd i ddadansoddi'r galw am sgiliau a'r ddarpariaeth yn y rhanbarth. Mae hyn yn cael ei wneud, yn rhannol, drwy gefnogi mentrau arloesol megis y platfform newydd Careers in 360.
Mae'r cyflwynydd Gemma Casey yn ymuno ag Emma Thomas, Cadeirydd PSRh Canolbarth Cymru; Ceri Stephens o Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru; Doug Hughes, Cadeirydd Clwstwr Adeiladu'r PSRh; ac Andries Pretorius, Sylfaenydd One Step North a chrëwr porth Careers in 360, i drafod sgiliau, hyfforddiant a chyfleoedd gyrfa.
Gwrandewch yma: Growing Mid Wales: Digital Discussions - Business News Wales
Yn ogystal â'r podlediadau, mae pob un o'r gwesteion sydd wedi cyfrannu at ein cyfres bodlediadau hefyd yn cyfrannu colofn wadd i adran Business News Wales. Ewch i archwilio adran Canolbarth Cymru nawr.
