29.02.2024. Yng nghyfarfod Bwrdd y PSRh a gynhaliwyd ar 29 Ionawr, cyhoeddwyd cadeiryddion y grwpiau clwstwr busnes. Daw pob cadeirydd o fusnes neu sefydliad mewn sector penodol a byddant yn llais i'r grwpiau wrth rannu gwybodaeth rhwng y grwpiau, y Bwrdd PSRh a chyda rhanddeiliaid ehangach.
Mae'r PSRh wedi cysylltu â busnesau a darparwyr addysg ar draws y rhanbarth fel bod grwpiau clwstwr penodol i'r sector bellach wedi'u sefydlu'n ffurfiol.
Mae'r ymgysylltiad a'r cydweithio hwn yn helpu'r PSRh i nodi a mynd i'r afael â'r rhwystrau a'r materion sy'n effeithio ar fusnesau yng Nghanolbarth Cymru.
Isod, ceir diagram sy'n dangos yr effaith y gall grwpiau clwstwr busnes eu cael ar sbarduno newid yn y dirwedd sgiliau yng Nghanolbarth Cymru:
LMI (Labour Market Intelligence) - Gwybodaeth am y Farchnad Leol