Toggle menu

Datganiad Hygyrchedd

Mae'r Datganiad Hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://PSRhCanolbarth.Cymru a gynhelir gan Gyngor Sir Powys.

Rydym am i gymaint o bobl ag y bo modd ddefnyddio'r wefan hon. Mae hynny'n golygu y dylech chi allu wneud y canlynol:

  • Newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • Chwyddo i mewn hyd at 300% heb fod y testun yn diflannu i ochrau'r sgrîn
  • Llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • Llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio'r rhaglen darllen sgrîn (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud y wefan mor hawdd i'w deall ag y bo modd.

Rydym wedi dylunio'r wefan hon gyda nodweddion sy'n ei gwneud yn haws i'w defnyddio gan bawb, gan gynnwys y rhai hynny gydag anableddau gweld, anabledd clywedol, corfforol, lleferydd, gwybyddol neu anabledd niwrolegol. Ein nod yw cyrraedd lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (WCAG) 2.1. Dyma'r safon ryngwladol ar gyfer gwefannau a chynnwys hygyrch.

Mae gan AbilityNet gyngor ar addasu'ch dyfais i'w wneud yn fwy hwylus os oes gennych anabledd.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Ry'n ni'n wastad yn ceisio sicrhau bod y wefan hon mor hwylus ag y bo modd

Os oes gennych gwestiwn am hygyrchedd sy'n cynnwys:

  • cael trafferth cael hyd i wybodaeth neu ddefnyddio'r wefan
  • canfod problem hygyrchedd nas restrir ar y datganiad hwn
  • Os oes gennych sylwadau cadarnhaol am sut ry'n ni wedi llunio'r wefan i sicrhau y gallwch ei defnyddio'n hwylus

Cysylltwch â:

Y Tîm Hygyrchedd Digidol

Gwasanaethau Cwsmer

e-bost: website@powys.gov.uk

Ffôn: 01597 826000

Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth am ddim trwy ein cyfleuster sgwrsio ar y we lle gallwch siarad â ni ar-lein

 

Gwybodaeth mewn ffurfiau eraill

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi am y wefan hon mewn diwyg gwahanol, megis PDF hygyrch, print mawr, diwyg hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:

e-bost: website@powys.gov.uk

Ffôn: 01597 826000

Byddwn yn ystyried eich cais ac fe ddown ni yn ôl atoch cyn gynted ag y bo modd

Os na allwch chi weld y map ar y tudalen 'cysylltwch â ni', ffoniwch ni neu anfonwch e-bost i gael cyfarwyddiadau.

 

Cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni wyneb yn wyneb

Mae dolenni sain clywedol ar gael yn ein swyddfeydd, neu os hoffech gysylltu â ni cyn i chi daro heibio gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Ry'n ni'n darparu gwasanaeth cyfnewid testun (Relay UK ) ar gyfer pobl sy'n F/fyddar, pobl sydd â nam ar y clyw neu nam ar y lleferydd.

Dilynwch y ddolen hon ar gyfer cyfarwyddiadau Cyfnewid Testun

Sylwch: Mae Relay UK yn costio ceiniog y funud i'w ddefnyddio ar ben costau galwad safonol a gallwch gysylltu â ni trwy ddefnyddio ap neu ffôn testun.

Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth am ddim trwy ein cyfleuster gwe-sgwrsio lle gallwch chi siarad â ni ar-lein.

Ewch i https://cy.powys.gov.uk/cysylltu i weld sut y gallwch chi gysylltu â ni.

Y Weithdrefn Orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn fodlon ynghylch sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cymorth a Chynghori Cydraddoldebau (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Sir Powys wedi ymrwymo i sicrhau y gallwch ddefnyddio ei wefan yn hwylus, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â fersiwn AA 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We  oherwydd y diffygion cydymffurfio a restrir isod.

 

Cynnwys nad yw'n dod o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Fideos byw

Nid ydym yn arfaethu ychwanegu capsiynau i ffrydiau fideo byw oherwydd eu bod fideo byw wedi'i eithrio o'r rheoliadau hygyrchedd.

 

Sut aethon ni ati i brofi'r wefan hon

Cynhaliodd ein Tîm Hygyrchedd Digidol brofion ymarferol, yn ogystal defnyddion nhw feddalwedd profi awtomatig ar draws y wefan i gyd oddi wrth Wave

Lluniwyd y datganiad hwn ar 18 Medi 2020. Fe'i diweddarwyd diwethaf ar 24 Ebrill 2024.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu