Toggle menu

Datganiad Preifatrwydd

Pwy ydym ni

Manylion cyswllt ar gyfer Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru (PSRh a Chyngor Sir Powys (CSP):

Neuadd y Sir, Powys Spa Road East Llandrindod Wells LD1 5LG E-bost: customerservices@powys.gov.uk

Ffôn: 01597 826000

Swyddog Diogelu Data:

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data'r cyngor drwy e-bost:

Information.Compliance@powys.gov.uk

Pam yr ydym ni'n prosesu eich data personol

Er mwyn cyflenwi amrywiaeth o wasanaethau i fusnesau a chymunedau Powys a Cheredigion, fel y canlynol:

  • cynnal eich cyfrifon a'ch cofnodion eich hun
  • cyflawni arolygon
  • ymgymryd ag ymchwil

Mae angen i ni gael mynediad at, a gallu defnyddio gwybodaeth bersonol am fusnesau a staff. Gall y wybodaeth hon fod yn sensitif ei natur felly rydym ni'n gosod camau diogelu mewn lle er mwyn sicrhau'r canlynol:

  • dim ond y wybodaeth sydd ei hangen arnom yr ydym yn ei chasglu, a dim rhagor
  • mae'r wybodaeth yn gywir ac yn gyfredol
  • mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio ar gyfer y diben y bwriadwyd ei defnyddio
  • rydym ni'n cadw'r wybodaeth am gyhyd ag sydd ei hangen arnom yn unig

Ni fyddwn ni'n datgelu gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti at ddibenion marchnata na defnyddio data personol mewn ffordd a allai beri niwed diwarant.

Dim ond pan fydd yn ofynnol i ni wneud hynny fydd y PSRh yn rhannu eich gwybodaeth, fel pan fydd gwasanaethau yn cael eu cyflenwi ar y cyd â sefydliadau eraill. Byddwn ni'n dweud wrthych chi pwy yw'r sefydliadau eraill hyn pan fyddwn ni'n casglu eich gwybodaeth.

Pa fath / ddosbarth o ddata personol ydym ni'n ymwneud ag e?

Er mwyn cyflawni ein swyddogaethau, gall y PSRh gael, defnyddio a datgelu data personol gan gynnwys y canlynol:

  • Manylion personol (gan gynnwys pethau fel eich Enw, Sefydliad, cyfeiriad e-bost)

Dim ond er mwyn cyflawni diben neu ddibenion penodol fydd PSRh yn defnyddio data personol priodol. Gallai data personol fod yn wybodaeth sy'n cael ei chadw ar  gyfrifiadur neu ar ei systemau, hynny yw, ffeil, fel delweddau, ond gall hefyd gynnwys mathau eraill o wybodaeth sy'n cael ei chadw'n electronig.

Gwybodaeth am bwy sy'n cael ei phrosesu

Er mwyn cyflawni'r dibenion sy'n cael eu disgrifio uchod o ran pam yr ydym ni'n prosesu eich data personol, mae'n bosibl y byddai PSRh Canolbarth Cymru yn cael, defnyddio a datgelu data personol am y canlynol:

  • Busnesau
  • Sefydliadau'r Sector Cyhoeddus
  • Sefydliadau'r Trydydd Sector

O ble'r ydym ni'n cael data personol?

Er mwyn cyflawni'r dibenion a ddisgrifir uchod, gallai PSRh gael data personol oddi wrth amrywiaeth eang o ffynonellau, gan gynnwys y canlynol:

  • Sefydliadau a gymeradwyir a phobl sy'n gweithio gyda'r PSRh
  • Llywodraeth ganolog, asiantaethau ac adrannau llywodraethol
  • Unigolion eu hunain
  • Cymdeithion busnes ac ymgynghorwyr proffesiynol
  • Personau sy'n gwneud ymholiadau
  • Sefydliadau arolwg ac ymchwil
  • Masnach, sefydliadau cyflogwyr a chyrff proffesiynol
  • Llywodraeth leol
  • Sefydliadau gwirfoddol ac elusennol
  • Y cyfryngau

Rhannu eich gwybodaeth bersonol

Pan gaiff gwybodaeth ei rhannu gyda sefydliadau eraill neu ei phrosesu ar eich rhan, byddwn ni'n sicrhau diogelu digonol drwy sicrhau bod contractau a chytundebau rhannu mewn lle. Bydd y rhain yn diffinio'r swm lleiaf o ddata sydd i gael ei rannu, sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio a bydd yn gorfodi rheoli gwarchodaeth i ddiogelu eich gwybodaeth

Mae PSRh yn gweithio fel rhan o Tyfu Canolbarth Cymru, sef sefydliad economaidd ar y cyd sy'n cael ei reoli gan Gyngor Sir Ceredigion (CSC) a Chyngor Sir Powys (CSP). Caiff gwybodaeth bersonol ei chadw gan CSP a dim ond staff awdurdodedig oddi fewn i CSC a CSP fydd yn cael mynediad ati.

Mae'n ofynnol fod holl swyddogion CSP yn ymgymryd â hyfforddiant perthnasol i sicrhau fod data personol yn cael ei brosesu yn unol ag egwyddor deddfwriaeth diogelu data.

Am ba mor hir ydym ni'n cadw eich gwybodaeth

Dim ond am y cyfnod byrraf angenrheidiol y byddwn ni'n cael eich gwybodaeth. Ar ôl y cyfnod hwn, caiff gwybodaeth ei dileu/dinistrio yn unol ag amserlenni cadw cymeradwy.

Eich hawliau

Cais am Fynediad at Wrthrych- gallwch wneud cais i weld, a derbyn copi o wybodaeth amdanoch chi sy'n cael ei defnyddio gan PSRh. Mae hyn yn cynnwys pam fo gwybodaeth yn cael ei chadw a pha fathau o benderfyniadau sy'n cael eu gwneud i ddefnyddio'r wybodaeth honno. Er mwyn gwneud y cais hwn, cwblhewch hynny mewn Ffurflen Cais am Fynediad at Wrthrych. 

Yr hawl i gael eich hysbysu - mae hawl gennych i dderbyn gwybodaeth sy'n esbonio pam a sut yr ydym ni'n defnyddio eich gwybodaeth. Mae'r hysbysiadau hyn yn cael eu galw'n Hysbysiadau Preifatrwydd.

Yr hawl am gywiriad - mae hawl gennych gael gwybodaeth bersonol wedi ei chywiro neu ei chwblhau os ydych chi'n teimlo ei bod yn anghywir neu heb ei chwblhau.

Yr hawl i gael eich anghofio - mae hawl gennych ofyn bod gwybodaeth bersonol amdanoch chi yn cael ei dileu pan na fo unrhyw reswm sy'n ein cymell ni i barhau i'w defnyddio.

Yr hawl i flocio neu gyfyngu - mae'r gallu gennych i ofyn i ni stopio defnyddio eich gwybodaeth bersonol am resymau penodol ac mewn ffyrdd penodol.

Yr hawl i gludadwyedd - Yn ddibynnol ar y rhesymau a'r ffordd yr ydym ni'n defnyddio eich gwybodaeth, mae'n bosibl y bydd hawl gennych gael ac ailddefnyddio eich gwybodaeth, symud eich gwybodaeth o un system TG at un arall. Dim ond pan mai gwybodaeth a roddoch chi i ni ydyw, y bydd hyn yn gymwys, a'ch bod wedi rhoi caniatâd i ni ei defnyddio, neu ein bod ni'n ei defnyddio oherwydd contract, a bod cyfrifiadur yn ymgymryd â'r defnydd o wybodaeth.

Yr hawl i wrthwynebu - gallwch wrthwynebu ein bod ni'n defnyddio eich gwybodaeth mewn rhai achosion, fel marchnata uniongyrchol.

Sut i wneud ymholiad neu gyflwyno cwyn.

Yn ddibynnol ar pam fod angen i ni brosesu eich gwybodaeth, bydd hawliau penodol gennych ynghylch sut y caiff ei ddefnyddio. Caiff rhain eu manylu yn yr Hysbysiadau Preifatrwydd a ddarparwyd.

Mae sail cyfreithiol gan CSP dros gasglu gwybodaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer darparu gwasanaethau. Mae hawl gennych wneud cais fod y PSRh a CSP yn stopio neu'n cyfyngu ar ddefnyddio eich data personol mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd PSRh.

Cyflwynwch ymholiad i ni os hoffech wneud hynny.

  • Edrychwch ar eich gwybodaeth, cyflwynwch gais os gwelwch yn dda (Cais am Fynediad at Wrthrych)
  • Gwirio, cywiro neu ddiweddaru eich gwybodaeth
  • Os oes pryder gennych neu gwyn, gwrthwynebiad neu gais am gyfyngiad am sut yr ydym ni'n prosesu eich data
  • Byddwn ni'n ymdrechu i ymateb i'r holl ymholiadau ymhen 28 diwrnod ar ôl eu cyflwyno.

Manylion cyswllt ar gyfer ymholiadau:

Swyddog Diogelu Data:

Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Cyngor drwy e-bost i Information.Compliance@powys.gov.uk a ffonio 01597 826400

Am wybodaeth annibynnol ynghylch diogelu data, preifatrwydd a materion rhannu data, gallwch gysylltu â'r Swyddog Comisiynu Gwybodaeth fan hyn:

Swyddog Comisiynu Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113 (cyfradd leol) neu 01625 545 745 os yw'n well gennych ddefnyddio rhif gyfradd genedlaethol. Neu ewch i: ico.org.uk neu e-bostio casework@ico.org.uk.

Diogelu eich data personol

Mae PSRh a CSP yn cymryd diogelwch yr holl ddata personol sydd o dan ein rheolaeth yn ddifrifol iawn. Byddwn ni'n sicrhau fod polisi priodol, hyfforddiant, mesurau technegol a gweithdrefnol priodol mewn lle. Mae hyn yn cynnwys archwilio a monitro integriti, i ddiogelu ein systemau a llaw ac electronig, rhag colli neu gamddefnyddio data. byddwn ni ddim ond yn caniatáu mynediad atynt pan fydd yna reswm cyfreithlon dros wneud hynny, ac o dan ganllawiau llym bryd hynny ynghylch pa ddefnydd y gellir ei wneud o unrhyw ddata personol sy'n cael ei gynnwys oddi fewn iddynt. Mae'r gweithdrefnau hyn yn cael eu rheoli'n barhaus a'u gwella i sicrhau diogelwch i'r funud.

Gwybodaeth am sut yr ydym ni'n defnyddio cwcis.

Pan fyddwch chi'n defnyddio'r wefan hon, bydd peth data (cwcis) yn cael ei gadw ar eich cyfrifiadur.

Mae'r cwcis hyn yn hanfodol i ni i ddarparu gwasanaeth da i chi ar y we. Ni chaiff unrhyw rai ohonynt eu defnyddio at ddibenion marchnata, ac ni chaiff unrhyw wybodaeth bersonol ei storio yn (na gael mynediad gan) ein cwcis. Dim ond helpu ein safle i weithredu y maen nhw.

Rydym yn eu defnyddio ar y wefan hon i wella gwasanaethau i chi, er enghraifft:

  • mesur faint o bobl sy'n defnyddio ein gwefan, fel ein bod ni'n gallu gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu bodloni'r galw.
  • deall sut mae pobl yn cael mynediad at y wybodaeth ar ein safle drwy injan chwilio, fel ein bod ni'n gallu ei deilwra er mwyn ei wneud yn haws i ddod o hyd i wybodaeth.

Cwcis ar wefan powys.gov.uk oddi wrth gwmnïau eraill a gwefannau rhwydweithio cymdeithasol.

Wrth ymweld â'n safle, efallai eich bod chi wedi sylwir fod rhai cwcis nad ydynt yn berthnasol i midwalesrsp.wales. Bydd hyn yn digwydd pan fyddwch chi'n ymweld â thudalen sydd â chynnwys wedi ei fewnblannu gan drydydd parti (er enghraifft fideos YouTube) neu ddefnyddio rhai o'r dolenni i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol (e.e. Share This). Gall y gwefannau hyn osod cwcis ar eich cyfrifiadur.

Nid yw PSRh na CSP yn rheoli sut mae trydydd parti yn defnyddio eu cwcis. Dylech wirio polisïau preifatrwydd gwefannau'r trydydd partïon hyn am ragor o wybodaeth am eu cwcis os ydych chi'n bryderus ynghylch hyn.

Mae CSP yn argymell y gryf i chi beidio â blocio unrhyw gwcis o wefannau powys.gov.uk, am fod eu hangen ar ein safleoedd er mwyn iddynt weithio'n dda i chi.

Os ydych chi'n parhau i fod eisiau rheoli pa gwcis yr ydych yn eu derbyn, darllenwch gyngor am sut i reoli cwcis ar eich cyfrifiadur (nid yw'r cyngor hwn yn cael ei ardystio gan Gyngor Sir Powys). Gweld rhestr o gwcis sy'n cael eu defnyddio ar y wefan hon

Gwefannau eraill

Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni at wefannau eraill. Dim ond i'r wefan hon y mae'r polisi preifatrwydd yn gymwys, felly pan fyddwch chi'n defnyddio dolenni at wefannau eraill, dylech ddarllen eu polisïau preifatrwydd nhw eu hunain.

Newidiadau i'n polisi preifatrwydd

Rydym ni'n adolygu ein polisi preifatrwydd yn rheolaidd, a byddwn yn gosod unrhyw ddiweddariadau ar y we-ddalen hon.

Cafodd y polisi preifatrwydd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 4 Mehefin 2024.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu