Toggle menu

Grwpiau Clwstwr Cyflogwyr

Ein Grwpiau Clwstwr Cyflogwyr yw'r craidd sy'n gyrru datblygu sgiliau yng Nghanolbarth Cymru. Mae'r fforymau hyn a arweinir gan gyflogwyr yn lle mae mewnwelediad y diwydiant yn cwrdd â gweithredu - gan yrru'r agenda sgiliau ymlaen i sicrhau bod ein gweithlu yn barod ar gyfer y dyfodol.

Sector Cluster Group 3

Beth yw grwpiau clwstwr?

Mae Grwpiau Clwstwr yn cael eu cynrychioli gan gyflogwyr sector-benodol ac arweinwyr diwydiant. Maent yn cwrdd wyneb i wyneb 3-4 gwaith y ar draws y rhanbarth i:

  • Rannu mewnwelediadau ar heriau'r gweithlu cyfredol
  • Siapio hyfforddiant a darpariaeth sgiliau
  • Dylanwadu ar bolisi rhanbarthol a chenedlaethol
  • Cydweithio ar strategaethau recriwtio, cadw ac uwchsgilio

 

Ein Sectorau Blaenoriaeth

  • Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Uwch
  • Amaethyddiaeth
  • Adeiladaeth
  • Digidol
  • Egni
  • Bwyd a Diod
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Sector Cyhoeddus
  • Twristiaeth a Hamdden

Clystyrau Cymorth

Yn ogystal â'n clystyrau busnes, mae gennym Glwstwr Darparwyr. Mae'r grŵp hwn yn dod ynghyd darparwyr addysg a hyfforddiant i gynnig mewnwelediadau i ddysgu seiliedig ar waith ac yn yr ystafell ddosbarth ledled y rhanbarth.

Mae'n chwarae rôl strategol wrth lunio darpariaeth bresennol a dyfodol, gan cysoni â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, LMI, ac adborth gan ein clystyrau diwydiant.

Pam cymryd rhan?

Trwy ymuno â Grŵp Clwstwr, gall eich busnes:

  • Dylanwadu ar ddyfodol sgiliau yn eich sector
  • Sicrhau bod darpariaeth hyfforddiant yn diwallu eich anghenion
  • Cymryd rhan mewn ymweliadau gyrfa ag ysgolion uwchradd rhanbarthol (Adeiladu a Gweithgynhyrchu a Pheirianneg)
  • Helpu i lunio gweithlu gwydn, sy'n barod i'r dyfodol yng Nghanolbarth Cymru
  • Rhwydweithio â chyflogwyr a rhanddeiliaid o'r un anian

Mae Cadeiryddion pob Grŵp Clwstwr yn eistedd ar Fwrdd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, gan sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed ar y lefel uchaf ac yn bwydo'n uniongyrchol i strwythur llywodraethu Tyfu Canolbarth Cymru.

I gymryd rhan, cysylltwch â Teresa Peel Jones - Swyddog Cyflogwr ac Ymgysylltu ar teresa.peeljones@powys.gov.uk

Sector Cluster Group 1
Sector Cluster Group 2
 Construction Cluster Group

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu