Toggle menu

Beth yw'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol?

Regional skills areas

Canolbwyntio ar Gymru

Mae Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol (PSRh) yn bodoli er mwyn llywio buddsoddiad mewn sgiliau drwy ddatblygu ymatebion yn seiliedig ar angen lleol a rhanbarthol.

Ceir pedair PSRh:

  • Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol De-Ddwyrain Cymru a Chaerdydd
  • Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru
  • Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol y De-Orllewin
  • Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru

Mae PSRhau yn gydran bwysig o dirlun sgiliau rhanbarthol, gan ddarparu deallusrwydd y farchnad lafur i Lywodraeth Cymru. Maen nhw'n rhan o wead dogfennau polisi allweddol fel y Datganiad Polisi PrentisiaethCynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau a Cynllun Gweithredu Sgiliau Net Sero cymru. Mae'r deallusrwydd a'r argymhellion maen nhw'n eu darparu, ar sail ranbarthol ac is-ranbarthol, ynghyd â ffynonellau eraill o ddeallusrwydd, yn allweddol wrth lywio datblygiad polisi, cynllunio rhaglenni a threfnu ariannu sgiliau. Mae PSRhau hefyd yn cefnogi'r Fargen Ddinesig a Bargeinion Twf ledled Cymru gan ymddwyn fel partneriaethau sgiliau ar bob mater sy'n berthnasol i gyflogadwyedd a sgiliau.

Bob tair blynedd, mae PSRhau yn cynhyrchu Cynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau sy'n dadansoddi heriau economaidd rhanbarthol a sectorau twf posibl, ac yn rhoi ciplun o ofynion sgiliau cyfredol a'r dyfodol i bob rhanbarth. Mae'r cynllun hwn yn gallu dylanwadu ar Lywodraeth Cymru o ran blaenoriaethu a threfnu ariannu sgiliau gan gynnwys Prentisiaeth a dyraniadau Addysg Bellach.

Canolbwyntio ar Ganolbarth Cymru

Cafodd PSRh Canolbarth Cymru ei sefydlu yn 2022. Wrth weithio ar draws Ceredigion a Phowys a chymryd blaenoriaethau Tyfu Canolbarth Cymru, i ystyriaeth rydym yn ymdrechu i ddod â chyflogwyr, darparwyr sgiliau a rhanddeilaid ynghyd i ddadansoddi'r galw am sgiliau a darpariaeth oddi fewn i'r rhanbarth i ddylanwadu ar newid.  

Ein blaenoriaethau

  • Gweithredu fel partneriaeth sy'n gweithio ag arweinwyr busnes a rhanddeilaid i ddynodi anghenion sgiliau cyfredol a'r dyfodol ledled y rhanbarth.
  • Pontio'r gagendor rhwng addysg, sgiliau ac adfywio i greu economi cryf a bywiog wedi ei thanategu gan arloesedd, twf a gweithlu medrus.

Yr hyn yr ydym yn ei gyflenwi

  • Cynhyrchu a dadansoddi deallusrwydd y farchnad lafur i lywio blaenoriaethau cyfredol a rhai'r dyfodol.​
  • Adolygu darpariaeth sgiliau rhanbarthol.
  • Dylanwadu ar benderfyniadau am sgiliau, hyfforddi ac addysg.​
  • Ymddwyn fel corff strategol sy'n cynrychioli diddordebau rhanbarthol.​

Mae PSRh Canolbarth Cymru hefyd yn cefnogi Bargen Dwf Canolbarth Cymru drwy weithio gyda phartneriaid prosiect i gwmpasu a deall gofynion sgiliau buddsoddiad y Fargen Dwf Pan fydd y sgiliau hyn wedi cael eu dynodi, caiff y wybodaeth ei choladu a'i defnyddio i lobïo darparwyr a Llywodraeth Cymru am newidiadau i'r ddarpariaeth.

Ein Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau

Fel rhan o gynllun i edrych yn fwy strategol  a hirdymor ar y system sgiliau yn y Canolbarth, yn 2023, lansiwyd Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau tair blynedd o hyd gan y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol.

Ers hynny, mae ein gwaith gyda'r grwpiau clwstwr newydd eu sefydlu ac sy'n cael eu harwain gan fusnesau wedi dylanwadu'n sylweddol ar yr agenda sgiliau, gan roi darlun cliriach i'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol o'r hyn sy'n digwydd yn ein rhanbarth. Mae ein gwybodaeth am y farchnad lafur a'r data ansoddol hwn wedi llywio newidiadau sylweddol yn economi'r Canolbarth, gan ddangos rhagfynegiadau twf uwch na'r hyn a ragwelwyd i ddechrau. Ym mis Gorffennaf eleni cyhoeddwyd y diweddariad ar gyfer y cynllun hwn. Ewch i'r dudalen Cyflogaeth a Sgiliau newydd i weld y cynllun: Ein Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau

Yn gweithio gyda'n harbenigwyr sector yn y Grwpiau Clwstwr, a chomisiynu Lightcast i gynnal dadansoddiad o'r sector cyflogaeth a sgiliau gan dynnu o'n harolwg Sgiliau ein hunain - cafwyd proffil o'r sectorau busnes.

Mae'r Cynllun yn amlinellu'r prif ganfyddiadau ar draws y sectorau busnes sydd wedi dylanwadu ar flaenoriaethau'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol dros y 12 mis nesaf:

  • Gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd
  • Profiad gwaith
  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth
  • Mynd i'r afael â'r bwlch rhwng y rhywiau mewn sectorau penodol
  • Sero Net
  • Darpariaeth hyfforddiant addas i'r diben sydd hefyd yn mynd i'r afael ag agweddau ac ymddygiadau yn y gweithle
  • Gwella mynediad at brentisiaethau a phrentisiaethau gradd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu