
Mae Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol canolbarth Cymru yn falch iawn o noddi'r categori newydd, sef Gwobr Partneriaeth Busnes ac Addysg, fel rhan o Wobrau Busnes Powys 2025!
Mae'r wobr hon yn dathlu cydweithio rhagorol rhwng cyflogwyr a sefydliadau addysg. Mae'n cydnabod partneriaethau sy'n helpu i siapio tirwedd sgiliau'r rhanbarth ac yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf drwy uchelgais a chydweithrediad.
Ydych chi'n rhan o bartneriaeth lwyddiannus rhwng busnes ac addysg yng Nghanolbarth Cymru? Sicrhewch eich bod yn enwebu! Manylion yma https://mailchi.mp/1627a86fb726/mwmg-ebulletin-7-9-5857840?e=a2ac09fd0d