Ein Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau wedi'i ddiweddaru yn rhoi sylw i anghenion cyflogaeth a sgiliau y rhanbarth sy'n esblygu, gan adlewyrchu twf sectorau a galwadau economaidd.
Yn gweithio gyda'n harbenigwyr sector yn y Grwpiau Clwstwr, a chomisiynu Lightcast i gynnal dadansoddiad o'r sector cyflogaeth a sgiliau gan dynnu o'n harolwg Sgiliau ein hunain - cafwyd proffil o'r sectorau busnes. Mae'r cynllun wedi'i ddiweddaru yn cynnwys gwybodaeth newydd am y farchnad lafur a data ansoddol, sy'n cynnig rhagolygon twf manwl ar gyfer Powys a Cheredigion. Cydweithiodd PSRh gyda grwpiau clwstwr a arweiniwyd gan fyd busnes i gasglu dirnadaeth o ddiwydiannau penodol, gan sicrhau bod y cynllun yn bodloni galwadau presennol economi Canolbarth Cymru a'i galwadau yn y dyfodol.
Mae'r cynllun wedi'i ddiweddaru yn amlygu meysydd twf allweddol tan 2028, gan gynnwys cynnydd o 6% yn y sectorau adeiladu a chynhyrchu uwch, cynnydd o 9% mewn cynhyrchu bwyd a diod, a thwf o 4% yn y sector digidol.
Mae'r Cynllun yn amlinellu'r prif ganfyddiadau ar draws y sectorau busnes sydd wedi dylanwadu ar flaenoriaethau'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol dros y 12 mis nesaf:
- Gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd
- Profiad gwaith
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth
- Mynd i'r afael â'r bwlch rhwng y rhywiau mewn sectorau penodol
- Sero Net
- Darpariaeth hyfforddiant addas i'r diben sydd hefyd yn mynd i'r afael ag agweddau ac ymddygiadau yn y gweithle
- Gwella mynediad at brentisiaethau a phrentisiaethau gradd.
Mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd sgiliau sy'n gysylltiedig â Sero Net ac ynni, gan amlygu gofynion y gweithlu sy'n dod i'r amlwg.
Archwiliwch y Cynllun cynhwysfawr yma: Diweddariad Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth 2024 (PDF) [411KB]