Toggle menu

Grwpiau Clwstwr y Sector

Cluster Group 1

Cluster Group 2

Cluster Group 4

Grwpiau Clwstwr Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yw ein harbenigwyr sector. Maen nhw'n darparu deallusrwydd penodol i'r diwydiant yn rhanbarth Canolbarth Cymru, a synnwyr-wirio ein dadansoddiad o Ddeallusrwydd y Farchnad Lafur.

Mae'r grwpiau clwstwr hyn yn fforymau sy'n cael eu harwain gan gyflogwyr sy'n cwrdd dair neu bedair gwaith y flwyddyn i drafod materion a phroblemau sy'n berthnasol i sgiliau, recriwtio'r gweithlu a'u cadw yn mhob sector a flaenoriaethwyd gan PSRh Canolbarth Cymru.

Mae ein Sectorau Blaenoriaeth yn cynnwys:

  • Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Uwch
  • Amaethyddiaeth
  • Adeiladu ac Ynni
  • Digidol
  • Bwyd a Diod
  • Gofal Iechyd a Chymdeithasol
  • Sector Cyhoeddus
  • Twristiaeth a Hamdden
  • Trafnidiaeth a Logisteg

Mae gan PSRh Canolbarth Cymru ddau grŵp clwstwr 'cefnogi' hefyd sy'n gweithio ochr yn ochr â'r clystyrau busnes:

  • Mae'r Clwstwr Darparu yn cynnig mewnwelediad i waith a dysgu wedi'i leoli yn yr ystafell ddosbarth a rhaglenni cyflogadwyaeth yn y rhanbarth. Mae'n canolbwyntio ar gyfeiriad strategol ar gyfer darpariaeth gyfredol a'r dyfodol a chyflogadwyedd oddi fewn i sgiliau blaenoriaeth yng nghyd-destun Llywodraeth Cymru LMI a grwpiau clwstwr ein diwydiant.
  • Mae Grŵp Clwstwr  Y Warant i Bobl Ifanc (GPI) yn dwyn cynrychiolwyr GPI ynghyd ar draws y sector cyhoeddus, darpariaeth hyfforddi sgiliau, cyflogadwyedd a phartneriaid darparu'r Trydydd Sector mewn cyd-destun ymgynghorol i synnwyr-wirio fod gweithgaredd PSRh yn cefnogi ein pobl ifanc yn enwedig y rheini sydd mewn risg o beidio â bod mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant. Mae'r PSRh yn gweithio gyda'r grŵp hwn i chwilio am gyfleoedd, cydweithrediaeth a syniadau arloesol oddi fewn i'r rhanbarth i ymgysylltu'r garfan hon o bobl ifanc gyda'r farchnad lafur ac atal eithrio cymdeithasol hir-dymor.

Mae Cadeiryddion pob grŵp clwstwr yn eistedd ar Fwrdd PSTh Canolbarth Cymru sydd yn ei dro'n adrodd yn ôl yn uniongyrchol i strwythur llywodraethiant Tyfu Canolbarth Cymru.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu